Cynulliad Cenedlaethol Cymru Y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon — National Assembly for Wales Health, Social Care and Sport Committee  

 

Y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon

Blaenoriaethau’r Pwyllgor ar gyfer 2017-18

 

Mae’r Pwyllgor wedi nodi’r materion canlynol y bydd yn awyddus i roi blaenoriaeth iddynt dros y 12 mis nesaf. Ochr yn ochr â’r rhain, bydd y Pwyllgor yn trafod deddfwriaeth a gyfeirir ato, ynghyd â darnau byrrach o waith amserol.

 

Mae’r Pwyllgor wedi cytuno i fonitro gwaith parhaus yr Adolygiad Seneddol o Iechyd a Gofal Cymdeithasol yng Nghymru. Bydd gwaith a chanfyddiadau’r Adolygiad yn cael eu hystyried pan fydd y Pwyllgor yn gwneud penderfyniadau am y gwaith y bydd yn ymgymryd ag ef.

 

Noder mai bwriad y wybodaeth o dan bob pennawd yw cynnig, yn gynnar, faterion y gall y Pwyllgor fod am eu trafod. Mae cylch gorchwyl manwl y gwaith hwn i’w gytuno, fodd bynnag.

 

Mae’r ddogfen hon yn amlinellu’r gwaith y bwriada’r Pwyllgor ei gyflawni yn ystod y flwyddyn nesaf. Mae’n nodi bwriadau presennol y Pwyllgor, ar adeg cyhoeddi’r papur, ond gall hyn newid.

 

Gwaith parhaus

 

Bydd y Pwyllgor yn parhau i glywed tystiolaeth sy’n ymwneud â’i ymchwiliad i ddefnyddio meddyginiaeth gwrth-seicotig mewn cartrefi gofal ac mae wedi lansio ymchwiliad i weithgarwch corfforol plant a phobl ifanc. Bydd hefyd yn cyhoeddi adroddiadau ar ei ymchwiliad i ofal sylfaenol a’i ymchwiliad i unigrwydd ac unigedd.

 

1.   Atal hunanladdiad

Mae golwg fanwl y Pwyllgor yn ddiweddar ar y mater o unigrwydd ac unigedd, a’r posibilrwydd i hyn effeithio’n sylweddol ar iechyd corfforol a meddyliol, wedi amlygu hunanladdiad fel maes pryder o bwys. Mae atal hunanladdiad a ‘Siarad â Fi 2’, sef strategaeth atal hunanladdiad a hunan-niweidio 2015-2020 Llywodraeth Cymru o ddiddordeb penodol i ni.

 

2.   Seilwaith TGCh

Mae’r seilwaith TGCh yn y byrddau iechyd ac ymddiriedolaethau’r GIG yng Nghymru yn fater sydd wedi cael ei godi gyda’r Pwyllgor ar nifer o achlysuron, yn enwedig fel rhan o ymchwiliad y Pwyllgor i glystyrau gofal sylfaenol. O ddiddordeb penodol y mae’r posibiliadau ar gyfer technoleg fwy integredig a defnyddio data a rennir, gwella profiad y claf, a nodi’r ffactorau a all fod yn rhwystr i effeithiolrwydd a moderneiddio. Gallai hyn hefyd gynnwys problemau sy’n berthnasol i integreiddio ar draws y maes iechyd a gofal cymdeithasol.

 

3.   Rhestr Cyflawnwyr Meddygol

Rhaid i bob meddyg (gan gynnwys Hyfforddeion Meddygon Teulu a Meddygon Teulu Cynefino a Gloywi) sydd am weithio ym maes gofal sylfaenol y GIG yng Nghymru gael eu cynnwys ar Restr Cyflawnwyr Meddygol (MPL) un o fyrddau iechyd Cymru. Amlygodd ymchwiliad y Pwyllgor i recriwtio meddygol faterion o ran y Rhestr Cyflawnwyr Meddygol, yn arbennig o ran meddygon sy’n dychwelyd i Gymru i weithio, ac ynghylch cywerthedd hyfforddiant. Mae’n debyg mai ymchwiliad byr fydd hwn.

 

4.   Iechyd mewn ardaloedd gwledig / ardaloedd sydd â chyfleusterau iechyd prin

Mae’r Pwyllgor yn ymwybodol o broblem gynyddol sy’n effeithio ar nifer o ardaloedd gwledig ac anghysbell ledled Cymru, ble y gall yr her i wella gwasanaethau iechyd a gofal fod ar ei heithaf. Bydd y Pwyllgor yn ystyried argymhellion yr Adolygiad Seneddol o Iechyd a Gofal Cymdeithasol yng Nghymru fel sy’n berthnasol i’r mater hwn, cyn penderfynu ar ei ffocws ei hun.

 

5.   Craffu ar ôl deddfu

Gwnaed nifer o ddarnau o ddeddfwriaeth sylfaenol yn y Trydydd Cynulliad a’r Pedwerydd Cynulliad y byddai’n briodol i’r Pwyllgor ail-edrych arnynt. Dros y 12 mis nesaf, bydd y Pwyllgor yn parhau i ystyried y posibiliadau a’r opsiynau ar gyfer ymgymryd â gwaith craffu ar ôl deddfu.

 

6.   Craffu cyffredinol a chraffu ariannol

Mae’r Pwyllgor o’r farn bod craffu strategol a rheolaidd ar Lywodraeth Cymru a chyrff statudol perthnasol yn rhan bwysig o’i rôl. Yn ystod gweddill cyfnod y Cynulliad hwn, bydd y Pwyllgor yn gwahodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon a’r Gweinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol, yn ychwanegol at Chwaraeon Cymru, Iechyd Cyhoeddus Cymru a’r byrddau iechyd ar gyfer sesiynau craffu cyffredinol yn ôl yr angen.

 

Bydd pwyllgorau’r Cynulliad, o bosibl, â rôl wahanol wrth graffu ar Gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru yng nghyd-destun pwerau trethu a benthyca datganoledig newydd Cymru o dan Ddeddf Cymru 2014 a chymhlethdod cynyddol trefniadau cyllido Llywodraeth Cymru. Bydd y Pwyllgor hwn yn gofyn yn benodol am fewnbwn y byrddau iechyd ac awdurdodau lleol cyn ei sesiwn graffu gydag Ysgrifennydd y Cabinet a’r Gweinidog yn ddiweddarach yn 2017.